2011 Rhif 1468 (Cy. 173) (C.56)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”). Mae’r Gorchymyn yn dwyn i rym adran 20 o Fesur 2009 drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.

Yr oedd Mesur 2009 yn diwygio Rhan 4 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, a oedd yn ymwneud â gwahaniaethu mewn ysgolion, i alluogi’r plant eu hunain i wneud hawliad am wahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Diddymwyd Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae adran 20 o Fesur 2009 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio Mesur 2009 i dynnu’r darpariaethau a ddiwygiodd Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, ac yn eu lle mewnosod darpariaethau cyfatebol a darpariaethau priodol eraill i ddiwygio Deddf Cydraddoldeb 2010.


2011 Rhif 1468 (Cy. 173) (C.56)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2011

Gwnaed                               10 Mehefin 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 26 o Fesur Addysg (Cymru) 2009([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2011. 

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3)  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Mesur 2009” (“the 2009 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.

Y diwrnod penodedig

2. Mae adran 20 (pwerau mewn perthynas â diddymu ac ailddeddfu Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995) o Fesur 2009 i ddod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.

 

 

 

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

10 Mehefin 2011



([1]) 2009 mccc 5.